Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r wefan GOV.UK ehangach. Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y brif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth ‘Gwneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth’ ar https://apply-for-bereavement-support-payment.dwp.gov.uk/
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau i gymaint o bobl ȃ phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2
Os ydych yn cael anhawster defnyddio’r gwasanaeth hwn
Os ydych yn cael anhawster defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Profedigaeth.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym eisiau gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: bereavement.ciaad@dwp.gov.uk
Gweithdrefn Orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yn Gogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws Cydymffurfiaeth
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 13 Mawrth 2024. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 13 Mawrth 2024.
Profwyd y gwasanaeth diwethaf ar 9 Chwefror 2024. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gan ddefnyddio cyfuniad o brofion llaw ac awtomataidd.
Gwnaethom brofi ein gwefan yn llawn, ar gael ar https://apply-for-bereavement-support-payment.dwp.gov.uk